Rydym yn gallu helpu microfentrau a busnesau bach (gan gynnwys yr hunangyflogedig, partneriaethau a chwmnïau cyfyngedig).
Rydym yn gallu helpu os ydych yn ficrofenter neu’n fusnes bach. Rydym hefyd yn gallu helpu rhai elusennau ac ymddiriedolaethau ac unigolion sy’n gweithredu fel gwarantwyr personol ar gyfer benthyciadau i fusnesau. Rydym yn nodi rhagor o wybodaeth isod ynghylch sut y diffinnir y rhain.
Pan fyddwch yn cysylltu â ni, bydd angen peth gwybodaeth fanwl arnom am eich busnes fel y gallwn benderfynu a allwn helpu, rydym yn nodi isod yr hyn y bydd angen i chi ei ddweud wrthym.
Mae’r wybodaeth a ddarperir ar y dudalen hon yn grynodeb o’r rheolau sy’n ymwneud â phwy sy’n gallu dod â chwyn atom. Gosodir y rheolau llawn gan reoleiddiwr y diwydiant, yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol, a gellir dod o hyd iddynt ar eu gwefan.
Y mathau o fusnesau y gallwn eu helpu
Gall tua 99% o fusnesau bach yn y DU ddod â chwyn at yr Ombwdsmon Ariannol ar gyfer busnesau bach. Yn ôl y rheolau sy’n nodi pwy rydym yn gallu eu helpu, gallwn edrych ar gwynion gan:
Ficrofentrau
Microfenter yw busnes:
- sy’n cyflogi llai na 10 o bobl ac
- mae ganddi drosiant blynyddol neu fantolen nad yw'n fwy na €2 filiwn
Busnesau bach
Busnes bach yw busnes:
- nad yw’n ficrofenter
- mae ganddo drosiant blynyddol o lai na £6.5 miliwn ac
- mae ganddo fantolen o lai na £5 miliwn, neu’n cyflogi llai na 50 o bobl
Gall busnesau bach ddod â chwyn mewn perthynas yn unig â gweithred neu hepgoriad gan y busnes ariannol a ddigwyddodd ar neu ar ôl 1 Ebrill 2019. Darllenwch fwy am derfynau amser sy’n gymwys.
Rydym hefyd yn gallu helpu elusennau gydag incwm blynyddol o lai na £6.5 miliwn ac ymddiriedolaethau gyda gwerth ased net o lai na £5 miliwn; ac unigolion sy’n gweithredu fel gwarantwyr personol ar gyfer benthyciadau i fusnesau maent yn ymwneud â nhw.
Defnyddiwch ein gwiriwr cymhwysedd i gael syniad ynghylch a all ein gwasanaeth fod yn gallu eich helpu.
Cwestiynau cyffredin rydym yn eu derbyn am gymhwysedd
Rydym wedi rhestru rhai o’r cwestiynau mwyaf cyffredin rydym yn eu derbyn am gymhwysedd a sut rydym yn mynd i’r afael â nhw.
Sut byddwch yn cyfrifo maint fy musnes?
Yn y rhan fwyaf o achosion, y pwynt perthnasol ar gyfer penderfynu maint eich busnes yw pan gwynoch wrth y busnes ariannol (nid pan roedd y weithred rydych yn cwyno amdani wedi digwydd neu’r adeg pan fyddwch yn dod â’ch cwyn atom).
I gyfrifo maint eich busnes, rydym yn defnyddio erthyglau 3 i 6 yr Atodiad i’r Argymhellion 2003/361/EC y Comisiwn 6ed Mai 2003 ynghylch diffiniad mentrau micro, bach a maint canolig.
Trosiant blynyddol
- Y trosiant blynyddol yw’r incwm a dderbyniodd busnes yn ystod y flwyddyn o dan sylw o werthu cynnyrch a/neu ddarparu gwasanaethau.
- Mae cyfanswm y fantolen yn cyfeirio at asedau gros y cwmni.
- Rydym yn edrych fel arfer ar ddatganiadau ariannol y busnes ar ddiwedd y flwyddyn ariannol ddiwethaf.
-
Roedd Cwmni Cyfyngedig A wedi cwyno wrthym am y modd roedd ei fanc wedi trafod ei gais diweddar am fenthyciad. Fel rhan o’n gwiriad awdurdodaeth roedd rhaid i ni ystyried cyfanswm mantolen Cwmni Cyfyngedig A.
Roedd ei Fantolen ar ddiwedd y flwyddyn ariannol ddiwethaf cyn y gŵyn fel a ganlyn:
Datganiad cyflwr ariannol ar 31 Mawrth 2020 Nodiadau 2020
£000
2019
£000
Asedau sefydlog Eiddo, cyfarpar ac offer 9 2,200 1,930 Asedau cyfredol Symiau derbyniadwy masnach ac arian parod 10 860 960 Asedau gros 3,060 2,890 Llai credydwyr angen eu talu mewn un flwyddyn 11 500 400 credydwyr angen eu talu ar ôl un flwyddyn 12 2000 1,750 Asedau net 560 740 Cyfalaf a chronfeydd Cyfalaf cyfranddaliadau a roddwyd 13 30 30 Elw a gadwyd 14 530 710 560 740 Edrychom ar swm cyfanswm yr asedau (neu asedau gros). Mae’r rhain fel arfer yn asedau sefydlog yn ogystal ag asedau cyfredol, a oedd yn yr achos hwn yn £3.06 miliwn, felly ymhell o fewn ein terfyn o £5 miliwn. Gan y bodlonwyd pob maen prawf awdurdodaeth arall, roeddem yn gallu ystyried cwyn Cwmni Cyfyngedig A.
Cyfrif pennau
- Mae'r cyfrif pennau’n cynnwys staff llawn amser, rhan-amser, dros dro a thymhorol.
- Mae’n cynnwys cyflogeion, rheolwyr-berchnogion, partneriaid a chyfarwyddwyr sy’n cymryd rhan mewn gweithgaredd rheolaidd yn y busnes, ond nid yw’n cynnwys prentisiaid a chyflogeion ar gyfnod mamolaeth neu dadolaeth.
- Mesurir y cyfrif pennau o ran pobl sy’n cyfateb i amser llawn (FTE). Felly mae unrhyw un a oedd wedi gweithio’n llawn amseryn ystod y flwyddyn gyfan yn cyfrif fel un FTE. Trosir staff rhan-amser, gweithwyr tymhorol neu'r rhai hynny nad oedd wedi gweithio’r flwyddyn gyfan i FTE yn seiliedig ar y nifer o oriau a weithiwyd ganddynt.
- Er enghraifft, mae gan C Cyfyngedig dri chyflogai llawn amser â chytundeb i weithio 40 awr yr wythnos. Mae ganddynt hefyd chwe cyflogai rhan-amser y mae pob un yn gweithio 20 awr yr wythnos. Mae oriau y chwe cyflogai rhan-amser wedi’u hychwanegu â’i gilydd yn gwneud FTE 1.5 arall (6x10 awr = 60 awr = 1.5 FTE). Felly mae'r busnes yn cyflogi 4.5 o bobl i ddibenion y cyfrifiad cyfrif pennau.
Beth fydd yn digwydd os bydd fy musnes yn mynd dros y trothwy dros dro?
Ceir rheol ‘dwy flynedd’ sy’n cydnabod y gall rhai busnesau fynd dros y trothwy dros dro yn ystod blwyddyn eithriadol a/neu mewn marchnadoedd anwadal.
Os bydd busnes yn mynd dros y trothwy yn ystod y flwyddyn o dan sylw, byddwn yn ystyried maint y busnes yn ystod y ddwy flynedd flaenorol yn ogystal. Gan edrych ar y tair blynedd gyfan, byddwn yn ystyried y busnes yn rhy fawr yn unig os yw wedi mynd dros y trothwy am ddwy flynedd yn olynol.
Noder, nid yw’r rheol hon yn gymwys lle bydd busnes yn mynd dros y trothwy oherwydd uno cwmnïau neu gaffael gan nad yw hyn dros dro yn nodweddiadol.
-
Roedd Cwmni Cyfyngedig B wedi cwyno wrthym yn Ebrill 2020 bod ei fanc wedi cau ei gyfrif yn annheg heb ei hysbysu. Dywedodd y banc wrthym bod Cwmni Cyfyngedig B yn rhy fawr i gwyno wrthym gan fod ei drosiant blynyddol yn ôl ei gyfrif a archwiliwyd ddiwethaf ar 31 Mawrth 2020 yn £7.5 miliwn ac roedd y swm hwn y tu allan i’n trothwy o £6.5 miliwn.
Fodd bynnag, roedd cyllid Cwmni Cyfyngedig B dros y ddwy flynedd flaenorol wedi bod fel a ganlyn:
Blwyddyn
Cyfrif pennau’r staff (FTE)
Trosiant Blynyddol
Cyfanswm y fantolen
2019-20
20
£7.5m
£1m
2018-19
8
£1.2m
£1m
2017-18
7
£1m
£0.8m
Wrth ymchwilio ymhellach, canfuom fod 2019-20 wedi bod yn flwyddyn eithriadol o dda i Gwmni Cyfyngedig B oherwydd archeb untro gan y llywodraeth, a oedd wedi achosi i’w staff yn ogystal â’i drosiant gynyddu. Yn y ddwy flynedd flaenorol, roedd nifer ei staff yn ogystal â’i drosiant yn llawer is ac o dan ein trothwy.
Yn ôl y rheol dwy flynedd, rydym yn ystyried busnes yn rhy fawr yn unig os bydd wedi croesi’r trothwy am ddwy flynedd yn olynol ond nid oedd hynny’n wir yn yr achos hwn. Felly, dywedom fod Cwmni Cyfyngedig B yn gallu dod â’i gŵyn atom.
Beth os oes cysylltiad gan fy musnes â busnes arall?
I gyfrifo maint perthnasol eich busnes, byddwn hefyd yn edrych i weld a ydych yn ‘fenter awtonomaidd’ neu os ydych wedi’ch cysylltu â busnesau eraill, naill ai fel ‘mentrau cysylltiedig’ neu ‘fentrau partner’.
Menter awtonomaidd
Menter awtonomaidd yw busnes sydd ar wahân o ddylanwad neu reolaeth unrhyw fusnes arall. Nid oes ganddo ddaliant o 25% neu fwy mewn unrhyw fenter arall; ac nid oes gan unrhyw fenter, corff cyhoeddus neu grŵp o fentrau ddaliant o 25% neu fwy ynddo; ac nid yw wedi’i gysylltu â menter arall trwy unigolyn.
Mentrau a gysylltir
Cysylltir dau fusnes pan fydd ganddynt y perthnasoedd canlynol:
- mae gan un busnes fwyafrif, neu mae’n gallu defnyddio rheolaeth lwyr dros fwyafrif, hawliau pleidleisio’r rhanddeiliaid neu aelodau mewn un arall; neu
- mae gan un busnes yr hawl i benodi neu dynnu mwyafrif corff gweinyddol, rheoli neu oruchwylio un arall; neu
- mae cytundeb rhwng y busnesau yn galluogi un i ddefnyddio dylanwad llywodraethol dros y llall.
Enghraifft nodweddiadol o fentrau a gysylltir yw mam fusnes ac is-gwmni sydd mewn perchnogaeth lwyr. Mae is-gwmnïau ‘chwaer’ sydd mewn perchnogaeth lwyr hefyd wedi’u cysyltu mewn cadwyn barhaus trwy’r fam fusnes.
Gellir cysylltu busnesau hefyd os bydd yr un unigolyn neu bobl yn berchen ar neu’n rheoli’r ddwy fenter. Os bydd y ddwy fenter yn cynnig nwyddau neu wasanethau yn yr un farchnad neu un gyfagos, byddem yn eu trin fel rhai cysylltiedig. Os bydd y ddwy fenter yn cynnig nwyddau neu wasanaethau mewn marchnadoedd gwahanol, byddem yn eu trin fel busnesau ar wahân.
Mentrau partner
Mae dau fusnes yn fentrau partner pan fydd un busnes â rhwng 25% a 50% o hawliau rhanddeiliaid neu bleidleisio mewn busnes arall.
Goblygiadau ar gyfer penderfynu maint
Os bydd eich busnes wedi’i gysylltu â busnesau eraill, bydd angen ystyried maint eich mentrau cysylltiedig neu bartner i benderfynu maint perthnasol eich busnes i ddibenion penderfynu a allwch ddod â’n cwyn atom.
Ychwanegir maint unrhyw fusnesau cysylltiedig, ac unrhyw fusnesau ychwanegol a gysylltir mewn cadwyn barhaus, at faint eich busnes.
-
Mae Cwmni Cyfyngedig C yn gwmni fferyllol, a ddaeth â’i gŵyn atom am hawliad yswiriant roedd ei yswiriwr wedi gwrthod talu. Ar y pryd roedd wedi cwyno wrth y cwmni yswiriant, roedd gan Gwmni Cyfyngedig C drosiant blynyddol o £5 miliwn, 25 o gyflogeion llawn amser a chyfanswm asedau o £1.5 miliwn.
Felly, ar yr wyneb, roedd yn fusnes bach o dan ein rheolau ac felly’n gymwys i gwyno i ni.
Fodd bynnag, wedi ymchwilio ymhellach canfuom fod gan Gwmni Cyfyngedig C gyfranddaliad o 70% mewn cwmni arall, Cwmni Cyfyngedig D.
Gan fod cyfranddaliad mwyafrif gan Gwmni Cyfyngedig C yng Nghwmni Cyfyngedig D, i gyrraedd y meini prawf maint i’n dibenion awdurdodaethol, roedd rhaid i ni ychwanegu ffigurau Cwmni Cyfyngedig D yn ogystal. Felly:
Cwmni Cyfyngedig C
Cwmni Cyfyngedig D
Cyfanswm
Cyfrif pennau staff
25
20
45
Trosiant
£5m
£2.5m
£7.5m
Cyfanswm asedau
£1.5m
£1m
£2.5m
Gan fod y trosiant cyfunol dros £6.5 miliwn, roedd Cwmni Cyfyngedig C nawr dros y trothwy ac nid oeddem yn gallu ystyried ei gŵyn.
Noder bod hyn hefyd yn gweithio y ffordd arall. Felly, er enghraifft, os oedd gan gwmni arall gyfranddaliad mwyafrif yng Nghwmni Cyfyngedig C, yna i gyrraedd y meini prawf maint, byddai angen i ni ychwanegu cyfrif pennau staff a data ariannol y cwmni hwnnw hefyd.
Ychwanegir cyfran o faint unrhyw fusnes partner at faint eich busnes.
-
Mae Cwmni Cyfyngedig E yn gwerthu diodydd ysgafn, gan gynnwys diodydd ffisiog a suddoedd ffrwythau. Roedd yn ddiweddar wedi trefnu yswiriant atebolrwydd cyhoeddus ond roedd yn poeni bod ei bolisi wedi’i gamwerthu gan ei frocer. Gofynnodd i ni adolygu ei gŵyn.
Roedd gan Gwmni Cyfyngedig E drosiant o £2 filiwn a mantolen o £1.8 miliwn. Roedd yn cyflogi 20 o bobl yn llawn amser.
Mae Cwmni Cyfyngedig E mewn partneriaeth â Chwmni Cyfyngedig F ac mae ganddo ran 40% yng Nghwmni Cyfyngedig F. Mae Cwmni Cyfyngedig F yn cyflogi 40 o bobl yn llawn amser. Mae ganddo drosiant o £4 miliwn a mantolen o £10 miliwn.
Felly, i gyfrifo’r cyfrif pennau a data ariannol i asesu a oedd awdurdodaeth gennym i ystyried y gŵyn, roedd angen i ni ychwanegu canran berthnasol y data ar gyfer Cwmni Cyfyngedig F at Gwmni Cyfyngedig E. Felly mae hynny’n golygu:
100% o Gwmni Cyfyngedig E
40% o Gwmni Cyfyngedig F
Cyfanswm
Cyfrif pennau staff
20
16
36
Trosiant
£2m
£1.6m
£3.6m
Cyfanswm asedau
£1.8m
£4m
£5.8m
Roedd y trosiant perthnasol cyfunol yn £3.6m, a oedd o dan y trothwy o £6.5m. Felly bodlonwyd yr amod hwnnw.
Roedd angen i ni wedyn sicrhau bod o leiaf un o naill ai’r cyfrif pennau staff neu gyfanswm y fantolen o dan ein trothwy. Dangosodd y data er bod cyfanswm yr asedau dros £5m, roedd y cyfrif pennau o dan 50, felly bodlonwyd y trothwy cyfrif pennau hefyd.
Roedd hyn yn golygu bod Cwmni Cyfyngedig E yn gymwys i ddod â’i gŵyn atom.
Nid yw’r cyfrifiadau hyn bob amser yn syml felly cysylltwch â ni os nad ydych yn siŵr.
Rwyf yn elusen, beth yw’r rheolau ar fy nghyfer?
Gallwch ddod â’ch cwyn atom os oedd eich incwm blynyddol yn llai na £6.5 miliwn ar yr adeg roeddech wedi cwyno wrth y cwmni ariannol.
Os bydd eich cwyn yn ymwneud â gweithred neu hepgoriad gan fusnes ariannol a ddigwyddodd cyn 1 Ebrill 2019, mae’n rhaid i’ch incwm blynyddol fod wedi bod yn llai nag £1 miliwn.
-
Roedd Elusen G yn cwyno am yr amser a gymerodd ei banc i newid ei mandad. Ar yr adeg honno, roedd gan yr elusen 80 o staff, £6 miliwn o asedau ac incwm blynyddol o £5 miliwn.
Roedd yr elusen yn gallu dod â’i chwyn atom. Roedd hyn oherwydd bod ei hincwm blynyddol o dan ein trothwy o £6.5 miliwn.
Yn annhebyg i’r meini prawf maint ar gyfer Mentrau Bach a Chanolig, mae cyfanswm yr asedau a’r cyfrif pennau staff yn amherthnasol i ystyried cymhwysedd yr elusen.
Rwy’n ymddiriedolaeth, beth yw’r rheolau ar fy nghyfer?
Gallwch ddod â’ch cwyn atom os oedd gwerth ased net eich Ymddiriedolaeth yn llai na £5 miliwn ar yr adeg roeddech wedi cwyno wrth y cwmni ariannol.
Os bydd eich cwyn yn ymwneud â gweithred neu hepgoriad gan fusnes ariannol a ddigwyddodd cyn 1 Ebrill 2019, mae’n rhaid i werth ased net yr Ymddiriedolaeth fod wedi bod yn llai nag £1 miliwn.
-
Roedd ymddiriedolwyr Ymddiriedolaeth H wedi cwyno wrthym am wall gweinyddol gan fanc yr ymddiriedolaeth ym mis Medi 2018.
Roedd yr ymddiriedolwyr wedi cwyno wrth y banc am y mater hwn ym mis Gorffennaf 2019 cyn dod a’r gŵyn atom. Ar yr adeg roeddent wedi cwyno wrth y banc, roedd cyfanswm asedau’r ymddiriedolaeth yn £6 miliwn ac roedd ei hincwm blynyddol yn £600,000.
Mae ein trothwy awdurdodaethol ar gyfer ymddiriedolaethau’n ymwneud â gwerth asedau net - nid asedau gros (fel yn achos busnesau bach) neu incwm blynyddol.
Roedd asedau net Ymddiriedolaeth H ar yr adeg roedd wedi cwyno wrth y banc yn £4 miliwn.
Fodd bynnag, roedd cwyn yr ymddiriedolwyr am rywbeth a oedd wedi digwydd cyn 1 Ebrill 2019. Mae hyn yn bwysig oherwydd bod y trothwy ar gyfer ein hawdurdodaeth i ystyried cwynion gan ymddiriedolaethau’n wahanol ar gyfer digwyddiadau ar ôl 1 Ebrill 2019 i ddigwyddiadau cyn hynny. Er mai £6.5 miliwn yw maint ein trothwy ar gyfer ymddiriedolaethau nawr, mae hyn yn ymwneud â digwyddiadau ar ôl 1 Ebrill 2019. Ar gyfer cwynion am ddigwyddiadau cyn 1 Ebrill 2019, y trothwy yw £1 miliwn.
Felly, roedd Ymddiriedolaeth H yn rhy fawr ar yr adeg y digwyddodd y digwyddiadau ac nid oeddem yn gallu ystyried ei chwyn.
Nid yw penderfynu’r adeg pan oedd y digwyddiad y derbynnir cwyn amdano wedi digwydd mewn gwirionedd bob amser yn syml. Felly os nad ydych yn sicr cysylltwch â ni.
Rwy’n warantwr ar gyfer fy menthyciad busnes
Mae’n bosibl y byddwch yn gallu dod â’ch cwyn atom os yw eich busnes yn ficrofenter neu’n fusnes bach.
Fodd bynnag, ar gyfer gwarant neu sicrhad a roddoch yn bersonol i’ch busnes (h.y. nid un busnes yn gwarantu benthyciad busnes arall), gallwch ddod â’ch cwyn atom yn unig os cawsant eu rhoi ar neu wedi 1 Ebrill 2019.
Os ydych wedi rhoi gwarant ar gyfer benthyciad sy’n ymwneud ag unigolyn arall neu fusnes rhywun arall, gweler ein gwybodaeth am fenthyciadau gwarantwr.
-
Roedd Helen yn un o gyfarwyddwyr Cwmni Cyfyngedig I. Ym mis Mehefin 2019, roedd angen i’r cwmni fenthyg peth arian gan y banc ac arwyddodd Helen warant fel sicrhad ar gyfer benthyciad y cwmni. O fewn chwe mis, roedd gan y cwmni broblemau ariannol ac nid oedd yn gallu ad-dalu’r benthyciad. Mynnodd y banc fod Helen yn ei ad-dalu o dan ei gwarant. Cwynodd nad oedd y banc wedi gweithredu’n deg.
Gwnaethpwyd y cytundeb gwarant yn yr achos hwn ar 10 Mehefin 2019 a oedd ar ôl yr adeg y newidiodd y rheolau ar 1 Ebrill 2019 i gynnwys gwarantau a roddwyd mewn perthynas â benthyciadau i fusnes gan gyfarwyddwr neu randdeiliad y busnes hwnnw.
Felly roeddem yn gallu ystyried cwyn Helen.
Rwy’n gorff cyhoeddus - ydych chi’n gallu fy helpu?
Nid yw corff cyhoeddus sy’n gwneud ei ddyletswyddau i ddarparu gwasanaeth cyhoeddus yn ficrofenter neu fusnes bach. Ni fyddai hefyd yn elusen.
Fodd bynnag, mae achlysuron lle gallem o bosibl ystyried eich cwyn (yn amodol ar y terfynau maint perthnasol) er enghraifft lle rydych yn fusnes ar wahân a sefydlwyd gan gorff cyhoeddus i gymryd rhan mewn gweithgaredd economaidd rheolaidd, neu lle mae’ch cwyn yn codi o’ch gweithrediadau fel ymddiriedolwr elusennol.
-
Roedd Cyngor Plwyf J wedi cwyno wrthym bod ei yswiriwr wedi gwrthod ei hawliad yn annheg mewn perthynas â’i yswiriant cyflogaeth.
Daethom i’r casgliad, fel corff cyhoeddus yn cyflawni ei ddyletswyddau i ddarparu gwasanaeth cyhoeddus, nad oedd y cyngor yn ficrofenter neu’n fusnes bach. Ac nid oedd unrhyw gategorïau eraill o achwynydd cymwys o dan ein rheolau cyfredol a allai fod yn gymwys ar ei gyfer. Felly, nid oeddem yn gallu ystyried ei gŵyn.
Nid yw hyn yn golygu na allai cyngor plwyf fyth fodloni’r meini prawf perthnasol, yn arbennig pan fydd yn cymryd rhan mewn gweithgarwch economaidd. Rydym yn ystyried awdurdodaeth ymhob achos yn seiliedig ar ffeithiau ac amgylchiadau unigol. Felly, os byddwn yn ansicr, cysylltwch â ni.
Ydych chi’n gallu helpu clybiau, cymdeithasau a sefydlliadau eraill?
Gallwch ddod â’ch cwyn yn unig atom os byddwch yn bodloni un o’r meini prawf a nodir yn ein rheolau – h.y. fel microfenter, busnes bach, elusen neu ymddiriedolaeth gymwys.
Fodd bynnag, gall sawl clwb, cymdeithas a sefydliadau fodloni’r meini prawf hyn. Cysylltwch â ni i weld a allwn ystyried eich cwyn. I wneud ein hasesiad, mae’n bosibl y byddwn yn gofyn i chi am ychydig o wybodaeth fanwl – gan gynnwys, lle y bo ar gael, copi o’ch dogfennau llywodraethu.
-
Roedd Clwb Golff K wedi gwneud dau drosglwyddiad banc i sgamiwr a oedd trwy gamgymeriad wedi credu mai ei gyflenwr ydoedd. Roedd yn anhapus bod ei fanc wedi gwrthod ad-dalu’r arian.
Dywedodd y banc nad oedd y clwb yn syrthio i unrhyw un o’r categorïau achwynydd cymwys o dan ein rheolau (esbonnir hyn yn llawn yn llawlyfr yr FCA yn DISP 2.7.3R), felly ni allem ystyried ei gŵyn.
Mae clybiau a chymdeithasau fel arfer yn cymryd ffurf sefydliadau anghorfforaethol. Fodd bynnag, i ddod â chwyn atom mae angen iddynt fodloni un o’r meini prawf a nodir yn DISP 2.7 3R.
Ni fydd cymdeithas anghorfforaethol yn ddefnyddiwr oherwydd, yn ôl diffiniad, ni fyddai’n unigolyn. A bydd a yw’n bodloni unrhyw un o’r meini prawf eraill yn dibynnu ar ei bwrpas a’i gyfansoddiad. Er mwyn ystyried hyn, mae’n bosibl y bydd angen i ni edrych ar gopi o’i ddogfennau llywodraethu.
Yn achos Clwb Golff K roeddem wedi adolygu dogfennau llywodraethu’r clwb ac edrych yn fanwl ar yr hyn roedd y clwb yn ei wneud. Roedd y clwb yn cynnig aelodaeth i’r cyhoedd wrth dalu ffi blynyddol. Roed set o fanteision gyda’r aelodaeth. Hefyd, roedd y clwb yn cynnig nwyddau i’w gwerthu i'w aelodau a’r cyhoedd. Roedd hefyd yn llogi ei adeiladau ar gyfer cyfarfodydd busnes a phriodasau.
Daethom i’r casgliad fod y clwb yn eglur yn cynnal gweithgareddau economaidd ac o’r herwydd roedd yn gymwys i ddod â’i gŵyn atom fel microfenter neu fusnes bach, gan ddibynnu ar ei faint. Yn yr enghraifft hon roedd yn ddigon bach i gael ei ystyried fel microfenter.