Cwynion y gallwn helpu yn eu cylch

Mae tua 99% o fusnesau bach y DU yn gymwys i ddefnyddio ein gwasanaeth, a gallwn ystyried cwynion am y rhan fwyaf o gynnyrch ariannol a gwasanaethau a ddarperir yn neu o’r DU. Mae’r dudalen hon yn nodi mewn mwy o fanylder y mathau o gwynion rydym yn eu gweld ac yn gallu edrych arnynt. 

Gallwn helpu gyda chwynion ynghylch y rhan fwyaf o fathau o gynnyrch ariannol a gwasanaethau a ddarperir yn neu o’r DU - o fancio, casglu dyledion a benthyciadau i yswiriant, morgeisi a phensiynau.

Pan fyddwch yn cysylltu, byddwn yn eich hysbysu os yw’r busnes yn un a gynhwysir gennym, ac os yw’r gŵyn am rywbeth y gallwn edrych arno.

Gallwch chwilio cofrestr gwasanaethau ariannol yr FCA i gael gwybodaeth am gwmnïau ac unigolion a reoleiddir gan yr FCA.  

  • Bancio a thaliadau

    Gallwn helpu gydag ystod o gwynion am fancio a thaliadau, gan gynnwys cyfrifon banc a gwasanaethau talu. 

    Bancio a thaliadau

  • Benthyca arian

    Gallwn eich helpu gyda chwynion am gredyd a benthyca arian, gan gynnwys benthyciadau diogel a BBI

    Credyd a benthyca arian

  • Yswiriant

    Rydym yn edrych ar amrywiaeth eang o fathau o yswiriant, gan gynnwys yswiriant cerbydau, eiddo masnachol, diogelu busnes a threuliau cyfreithiol.

    Yswiriant

  • Pensiynau

    Gallwn edrych ar y rhan fwyaf o gwynion am bensiynau personol grŵp, cynlluniau hunanweinyddu bach a chynlluniau pensiwn gweithrediaeth.

    Pensiynau

  • Cwynion a achoswyd gan neu a effeithiwyd gan Covid-19

    Rydym wedi casglu gwybodaeth benodol at ei gilydd ar gyfer busnesau bach sydd o bosibl â chwynion a achoswyd gan neu a effeithiwyd gan Covid-19 a’r effaith ar fusnesau ariannol sy’n ymateb i gwynion. 

    Covid-19

  • Cwynion eraill

    Rydym hefyd yn edrych ar ystod o gwynion ariannol eraill gan fusnesau bach.

    Mathau eraill o gwynion

Pwy sy’n gallu helpu

Rydym yn gallu helpu microfentrau a busnesau bach (gan gynnwys yr hunangyflogedig, partneriaethau a chwmnïau cyfyngedig), elusennau, ymddiriedolaethau ac unigolion sy’n gweithredu fel gwarantwyr ar gyfer benthyciadau i fusnesau maent yn ymwneud â nhw. Darllenwch ragor o fanylion ar ein tudalen pwy rydym yn gallu eu helpu.

Pethau eraill a allai effeithio ar a allwn helpu gyda’ch cwyn:

Terfynau amser 

Os ydych yn fusnes bach, gallwn edrych ar eich cwyn yn unig os yw’n ymwneud â digwyddiadau a ddigwyddodd ar neu ar ôl 1 Ebrill 2019. Ond os ydych yn ficrofenter, gallem helpu gyda chwynion am ddigwyddiadau cyn y dyddiad hwnnw. 

Bydd rhaid i chi fel arfer fod wedi rhoi cyfle i’r busnes ddatrys y broblem cyn i chi ddod atom. Bydd angen i chi wedyn gysylltu â ni o fewn chwe mis i ddyddiad eu hymateb terfynol.

Mae’n bosibl y bydd terfynau amser eraill sy’n ymwneud â’ch cwyn – dysgu mwy am derfynau amser.

Terfynau iawndal

Mae ffiniau ynghylch maint y swmy gallwn ddweud wrth fusnes ariannol i dalu i chi. 

Dysgu am iawndal – sut rydym yn ei gyfrifo, a beth yw'r terfynau. 

Cwynion trawsffiniol 

Yn gyffredinol, gallwn helpu gyda chwynion am fusnesau sy’n darparu cynnyrch a gwasanaethau ariannol yn neu o’r DU.

Ar gyfer cwynion am fusnesau sy’n seiliedig y tu allan i’r DU, mae’n bosibl y byddwch yn gallu cael help gan gorff trafod cwynion cyfatebol. Os byddwch yn dymuno gwneud cwyn am ddarparwr gwasanaeth ariannol mewn gwlad AEE arall, cysylltwch â ni a gallwn gyfeirio eich cwyn at y sefydliad cywir. Fel arall, cysylltwch â FIN-NET, rhwydwaith  ombwdsmyn a sefydliadau ariannol ledled Ewrop sy’n trafod cwynion ariannol.

Cwynion na fyddwn yn gallu helpu yn eu cylch o bosibl

Gallwn helpu’r rhan fwyaf o fusnesau bach a microfentrau ond yn ogystal â therfynau amser, mae’n bosibl y bydd rhesymau eraill o bosibl pam na fyddwn yn gallu helpu gyda chwyn.  Er enghraifft, ni fyddwn fel arfer yn edrych ar broblem a benderfynwyd gan lys, neu un rydym wedi edrych arni’n barod. I drafod eich achos, cysylltwch â ni - ac os na allwn helpu, byddwn yn ceisio dweud wrthych pwy sy’n gallu.

Cysylltu

Os na fyddwch yn siŵr a allwn helpu gyda’ch cwyn, neu fod cwestiynau eraill gennych, cysylltwch â ni.