Sut mae cwyno

Mae dod â chwyn at ein sylw’n syml ac ni fydd yn costio dim i chi. Mae'r dudalen hon yn esbonio sut y gall busnesau bach wneud cwyn am fusnes ariannol, ac yn rhoi amlinelliad o’n proses.

Beth yw’r broses?

Mae ein llinell amser isod yn dangos yr hyn ddylai ddigwydd a phryd.

1

Siaradwch â’r busnes ariannol yn gyntaf

Dylech roi cyfle i’r busnes ariannol rydych yn anhapus yn ei gylch ddatrys pethau cyn dod â’ch cwyn atom.

Gadewch iddynt wybod beth yw’r broblem, a sut yr hoffech iddynt gywiro  pethau. Os na fyddwch yn siŵr sut mae gwneud hyn, cysylltwch â ni a gallwn helpu. Mae’n rhaid i'r busnes roi eu hymateb terfynol o fewn wyth wythnos fan bellaf, gan ddibynnu ar yr hyn rydych yn cwyno amdano.

2

Os na fyddwch yn hapus o hyd, dewch â’ch cwyn atom

Os na fyddwch yn hapus â’r ymateb a gewch gan y busnes ariannol – neu nad ydynt yn eich ateb – gallwch ofyn i ni weithredu.

Bydd angen i chi gysylltu â ni o fewn chwe mis o dderbyn ymateb terfynol y busnes i’ch cwyn (er bod rhai eithriadau i’r rheol hon – dysgwch fwy am derfynau amser sy’n effeithio ar eich cwyn).

Pan fyddwch yn cysylltu, bydd angen i ni wybod:

  • peth gwybodaeth am eich busnes, megis amcangyfrif o’ch trosiant a phwy sydd wedi’i awdurdodi i wneud cwyn ar ran eich busnes.
  • beth yw’r broblem, a sut yr hoffech gael cywiro pethau
  • manylion megis rhif y polisi neu rif y cyfrif mae eich cwyn yn ymwneud ag ef
3

Byddwn yn ymchwilio i’ch cwyn

Unwaith i ni sicrhau bod eich cwyn yn rhywbeth y gallwn helpu â hi, byddwn yn dechrau ymchwilio.

Pan fyddwn yn ymchwilio i’ch cwyn byddwn yn:

  • gofyn i’r busnes rydych yn cwyno amdano am eu hochr nhw o’r stori
  • pwyso a mesur y ffeithiau ynghylch yr hyn sydd wedi digwydd, yn deg ac yn ddiduedd
4

Byddwn yn eich hysbysu am ein barn

Unwaith y byddwn wedi cael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnom, byddwn yn eich hysbysu am ein barn.

Os byddwn yn meddwl bod camddealltwriaeth wedi digwydd yn unig – byddwn yn esbonio pam. Ond os byddwn yn penderfynu eich bod wedi'ch trin yn annheg, byddwn yn dweud wrth y busnes rydych yn cwyno amdano i gywiro pethau. Rydym yn gallu datrys y rhan fwyaf o gwynion yn y modd hwn.

5

Os byddwch yn dymuno mynd â phethau ymhellach

Os bydd y naill ochr neu’r llall yn anghytuno â’r hyn rydym yn ei feddwl, gallant ofyn am benderfyniad ffurfiol gan un o’n hombwdsmyn.

Gall un o’n hombwdsmyn edrych ar bethau o’r newydd, a bydd ganddynt y pŵer i wneud penderfyniadau terfynol cyfreithiol rhwymol. Os na fyddwch yn derbyn penderfyniad terfynol yr ombwdsmon, byddwch yn gallu mynd â’ch cwyn i’r llys o hyd. Oherwydd bod y llysoedd yn dilyn ymagwedd wahanol, efallai y bydd eu hateb yn wahanol i'n un ni.

6

Cywiro pethau

Os byddwn yn penderfynu bod y busnes rydych yn cwyno amdano wedi gwneud rhywbeth yn anghywir, byddwn yn gofyn iddynt gywiro pethau. 

Gallwn wneud hynny mewn nifer o ffyrdd - gan gynnwys gofyn i’r busnes ariannol dalu iawndal i’ch busnes.

Rydym yma i helpu

Nid oes angen i chi dalu neb i gwyno ar ran eich busnes, megis cyfreithiwr neu gwmni rheoli hawliadau - er mai gyda chi y bydd y dewis os hoffech un i’ch helpu. Mae fel arfer yn fwy syml i glywed oddi wrthych yn uniongyrchol, a byddwn yn esbonio unrhyw beth nad ydych yn siŵr amdano.

Dysgwch sut y gallwn helpu os oes cwyn gennych i'w gwneud am ddarparwr gwasanaeth ariannol.