Pwy ydym ni

Mae Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol wedi bod yn trafod cwynion rhwng busnesau ariannol a’u cwsmeriaid ers i ni gael ein sefydlu gan y Senedd yn 2001. Dysgwch fwy amdanom a’r gwasanaeth rydym yn ei ei ddarparu ar gyfer busnesau bach. 

Os na all busnes ariannol a busnes bach ddatrys cwyn eu hunain, byddwn yn rhoi ateb diduedd am yr hyn sydd wedi digwydd. Os byddwn yn penderfynu bod rhywun wedi'u trin yn annheg, byddwn yn defnyddio ein pwerau cyfreithiol i gywiro pethau. Ar y dudalen hon, rydym yn esbonio mwy am ein rôl a’r gwasanaeth rydym yn ei ddarparu ar gyfer busnesau bach.

Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol ar gyfer busnesau bach

Yn 2019 rhoddwyd pwerau swyddogol i ni ymchwilio i gwynion gan fusnesau bach. Rydym nawr yn cynnig gwasanaeth datrys dadleuon pwrpasol y mae dros 99% o fusnesau bach y DU yn gymwys i’w ddefnyddio. 

Dysgwch fwy am y mathau o fusnesau bach, elusennau ac ymddiriedolaethau rydym yn gallu eu helpu.

Mae ein gwasanaeth yn rhad ac am ddim i fusnesau bach a defnyddwyr unigol a bob blwyddyn mae ymhell dros 1 miliwn o bobl yn cysylltu â ni am broblemau gydag amrywiaeth o gynnyrch a gwasanaethau ariannol. 

Dysgwch fwy am y cwynion rydym yn gallu helpu yn eu cylch.  

  • Ein tîm busnesau bach

    Mae ein tîm o ymchwilwyr ac ombwdsmyn yn arbenigo mewn datrys cwynion gan fusnesau bach am gynnyrch a gwasanaethau ariannol. 

    Darllen mwy am ein tîm busnes bach

  • Rhannu mewnwelediad a phrofiad

    Rydym yn cwrdd yn rheolaidd â chynrychiolwyr o fusnesau bach, cyrff masnach a gwasanaethau ariannol i rannu mewnwelediad i helpu i atal a datrys cwynion. 

    Darllen mwy am ein grŵp ymgynghorol

Os nad ydych yn fusnes bach...

Os oes cwyn gennych am fusnes ariannol ond nad ydych yn fusnes bach, ewch i’n gwefan Gwasnaeth Ombwdsmon Ariannol i ddysgu sut y gallwn helpu cwsmeriaid unigol.  

Os nad ydych yn siŵr, cysylltwch â ni a byddwn yn hapus i helpu.

 

Darllen ein harweiniad ar gyfer defnyddwyr unigol

Wedi’n harwain gan degwch

Mae tegwch wrth wraidd yr hyn a wnawn - a sut rydym yn trin ein staff a’r bobl sy’n defnyddio ein gwasanaeth. Gallwch ddarllen mwy am ein nodau a’n gwerthoedd, ein llywodraethu a chyllid, gyrfaoedd yn yr ombwdsmon a’r newyddion diweddaraf, ar ein prif wefan.

 

Ymweld â’n prif wefan